Neidio i'r cynnwys

Alexandria

Oddi ar Wicipedia
Alecsandria
Mathdinas â phorthladd, bwrdeistref, dinas fawr, polis, dinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAlecsander Fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,362,517 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Gefeilldref/i
Bratislava, Casablanca, Constanța, Durban, Kazanlak, Kanpur, Yevlakh, Gyumri, Odesa, Shanghai, St Petersburg, Thessaloníci, Jeddah, Kuching, Le Mans, Bwrdeistref Limassol, Cleveland, Bengasi, Baltimore, Paphos, Novi Sad Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYr Aifft Isel Edit this on Wikidata
GwladYr Aifft Edit this on Wikidata
Arwynebedd2,523 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr−1 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr y Canoldir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.1975°N 29.8925°E Edit this on Wikidata
Cod post21500 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethTentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion
Y Corniche yn Alexandria
Mae hyn yn erthygl am y ddinas adnabyddus yn yr Aifft. Am enghreifftiau eraill o'r enw Alexandria, gweler Alexandria (gwahaniaethu).

Alexandria (hefyd Alecsandria weithiau yn Gymraeg) (Groeg: Aλεξάνδρεια, Copteg: Ⲣⲁⲕⲟⲧⲉ Rakotə, Arabeg: الإسكندريه Al-Iskandariya, Arabeg yr Aifft: اسكندريه Eskendereyya), (poblogaeth o tua 3.5 i 5 miliwn), yw dinas fwyaf ond un yr Aifft, a'i phorthladd mwyaf.

Ymestyn Alexandria am tua 20 milltir (32 km) ar hyd arfordir Môr y Canoldir yng nghanolbarth gogledd yr Aifft. Mae'n gartref i'r Bibliotheca Alexandrina, Llyfrgell Newydd Alexandria, ac mae'n ganolfan ddiwydiannol bwysig oherwydd y pibellau olew a nwy naturiol sy'n cyrraedd yno o Suez.

Yn yr Henfyd, roedd Alexandria yn un o'r dinasoedd enwocaf yn y byd am ei dysg a'i hadeiladau ysblennydd. Cafodd ei sefydlu yn 331 CC gan Alecsander Fawr, a bu'n brifddinas yr Aifft am bron i fil o flynyddoedd ar ôl hynny, nes i'r Arabiaid oresgyn yr Aifft yn 641 OC a sefydlu prifddinas newydd yn Fustat (sydd heddiw'n rhan o Gairo). Roedd Alexandria yn enwog am Oleudy Alecsandria (un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd), Llyfrgell Alexandria (llyfrgell fwyaf yr Henfyd) a Catacombs Kom el Shoqafa. Mae gwaith archaeolegol parhaol yn harbwr Alexandria (a ddechreuwyd yn 1994) yn datgelu gwybodaeth am Alexandria cyn cyfnod Alecsander Fawr, pan oedd dinas Rhakotis ar y safle, ac yng nghyfnod brenhinllin y Ptolemïaid ar ôl hynny.

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu | golygu cod]
  • Amgueddfa Alexandria
  • Mosg Abu El Abbas Masjid
  • Palas yr Arlywydd
  • Palas Montaza
  • Palas Ras el-Tin
  • Pont Stanley

Enwogion

[golygu | golygu cod]